Cafodd WNHSS ei lansio yng Nghymru ym 1999 i annog datblygiad cynlluniau ysgolion iach lleol mewn fframwaith cenedlaethol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cydnabod bod WNHSS yn chwarae rôl allweddol yn hybu iechyd plant a phobl ifanc.
Mae pob cynllun lleol yn gyfrifol am gefnogi datblygiad ysgolion sydd yn hybu iechyd yn eu hardal. Mae’r WNHSS yn disgrifio ysgol sydd yn hybu iechyd fel un sydd yn ‘hybu, diogelu ac yn sefydlu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gamau gweithredol’. Gellir cyflawni hyn trwy bolisi, cynllunio strategol, datblygiad staff, y cwricwlwm, ethos, amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol.
Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i alluogi disgyblion a staff i reoli agweddau ar amgylchedd yr ysgol sydd yn dylanwadu ar eu hiechyd, yn ogystal ag addysgu disgyblion yn ffurfiol ynghylch sut i fyw bywydau iach. Mae ysgolion yn ceisio cyflawni rhagoriaeth mewn ymarfer ysgol gyfan ar draws nifer o destunau’n ymwneud ag iechyd yn cynnwys:
- Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgaredd corfforol)
- Iechyd a lles meddwl ac emosiynol, yn cynnwys lles staff
- Datblygiad personol a chydberthynas, yn cynnwys rhyw ac addysg cydberthynas
- Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, yn cynnwys alcohol, smygu a defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau (cyfreithlon, anghyfreithlon a phresgripsiwn)
- Yr amgylchedd, yn cynnwys eco-fentrau a gwella amgylchedd ehangach yr ysgol
- Diogelwch, yn cynnwys amrywiaeth o destunau fel diogelu plant, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y rhyngrwyd, a chymorth cyntaf
- Hylendid ar draws lleoliadau ysgol a thu hwnt
Er mwyn datblygu a sefydlu ymagwedd ysgol gyfan tuag at bob testun iechyd, eir i’r afael â’r agweddau canlynol:
- Arweinyddiaeth a Chyfathrebu
- Cwricwlwm
- Ethos a’r Amgylchedd
- Cynnwys Teuluoedd a’r Gymuned
Mae Cydlynwyr lleol yn sicrhau rhwydweithio lleol, ac yn cynnal system o fonitro ac achredu’r ysgolion yn eu cynllun.
Ar 20ain mlwyddiant y cynllun, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:
“Mae’r Cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol; mae ymgymeriad wedi bod yn aruthrol gyda mwy na 99% o ysgolion yn cymryd rhan gweithredol yng Nghymru. Mae 20 mlynedd yn garreg filltir sylweddol ac yn dangos pa mor hanfodol yw cefnogaeth barhaus ysgolion yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu gwneud dewisiadau iach. Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth am Gymru Iachach i wella iechyd a lles gyda ffocws ar ataliaeth.”