Mae cau’r bwlch ymgysylltu ag addysg i ofalwyr ifanc yn allweddol i wella iechyd a llesiant cenedlaethol dyfodol
Mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi tystiolaeth o’r effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed, a sut y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae’r ymchwil yn dwyn ynghyd ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru dros dair blynedd a chanfu’r canlynol:
- Mae gan un o bob pump o bobl ifanc 16 – 22 oed yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu
- Mae dynion a menywod yn y grŵp oedran hwn yr un mor yn debygol o fod yn ofalwyr ifanc
- Ar y cyfan, mae cyfran y bobl ifanc mewn addysg amser llawn yn is ymhlith gofalwyr ifanc (45 y cant ymhlith gofalwyr, o gymharu â 54 y cant ymhlith y rhai nad ydynt yn ofalwyr), ac mae’r gwahaniaeth hwn yn fwy yn y rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.