Gamblo niweidiol; mae addysg gynnar yn allweddol i fynd i’r afael â mater iechyd cyhoeddus brys
Mae addysg gynnar, sgrinio gan wasanaethau rheng flaen a chymorth parhaus drwy’r cyfnod ar ôl gwella ymhlith y camau gweithredu sydd eu hangen os yw Cymru am leihau’r effeithiau dinistriol a achosir gan gamblo, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae effeithiau gamblo niweidiol yn eang, gyda thystiolaeth yn dangos bod effaith negyddol sylweddol nid yn unig ar gamblwyr eu hunain, ond hefyd ar deuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a chyflogwyr, a’r gymuned ehangach.
Mae’r adroddiad yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu gan gynnwys yr angen am reoleiddio hysbysebu ac arferion y diwydiant gamblo yn fwy caeth a’r angen i gydnabod a gweithredu ar y cyswllt cynyddol agos rhwng gamblo a hapchwarae.
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.