Ail gam y Cynllun Prydau am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn dechrau
Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd £70 miliwn o gyllid ar gael i gefnogi’r cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru.
Hyd yn hyn, mae bron i bum miliwn o brydau ychwanegol wedi’u gweini am ddim ledled Cymru ers mis Medi 2022.
Bydd y cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd yn dechrau ym mis Medi 2023, a’r nod yw cynyddu’r cynnig i’r rhan fwyaf o ddysgwyr ym mlynyddoedd tri a phedwar. Bydd y cynllun wedyn yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd blynyddoedd pump a chwech. Pan fo awdurdodau lleol yn gallu cyrraedd y grwpiau blwyddyn hyn cyn y cerrig milltir uchod, maen nhw wedi’u hariannu i wneud hynny.
Mae £260 miliwn wedi’i ymrwymo i weithredu’r cynllun dros dair blynedd. Roedd hyn yn cynnwys £60 miliwn o arian cyfalaf i awdurdodau lleol ei fuddsoddi dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn gwelliannau i gyfleusterau cegin ysgolion, gan gynnwys prynu offer a diweddaru systemau digidol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.