Adroddiad newydd Llywodraeth Cymru yn canmol partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr am ymateb yn gyflym i COVID-19

Llwyddodd awdurdodau lleol a’r trydydd sector i ymateb yn gyflym i roi cymorth i bobl mwyaf agored i niwed ac ynysig Cymru yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae adroddiad Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r ffordd y mae awdurdodau lleol a’r trydydd sector wedi bod yn cydweithio i gynllunio a chydlynu cefnogaeth leol i grwpiau ac unigolion agored i niwed nad ydynt yn gwarchod eu hunain.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi lefelau uwch o wirfoddoli yn lleol, gyda’r pandemig yn arwain at fwy o wirfoddoli mewn gwahanol ffyrdd.

Er i’r arolwg awgrymu bod lefelau uwch o unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith grwpiau agored i niwed yn ystod y pandemig, rhoddodd awdurdodau lleol a Chynghorau Gwirfoddol Sirol nifer o enghreifftiau o effeithiau cadarnhaol ar gymorth cymunedol a chysylltiadau cymdeithasol cryfach mewn cymunedau.

Mae gweithredu gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru wedi canolbwyntio’n gadarn ar gefnogi pobl sy’n agored i niwed a’r grwpiau a’r cymunedau y mae Covid yn effeithio fwyaf arnynt, gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

“Ledled Cymru, mae timau o wirfoddolwyr wedi rhoi cymorth uniongyrchol i aelodau bregus o’r gymuned leol, drwy helpu i siopa a chasglu meddyginiaethau, yn ogystal â chynnig gwasanaethau cyfeillio i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd. Mae’r gwaith hwn wedi rhyddhau awdurdodau lleol a’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith.

“Mae gwirfoddolwyr a sefydliadau’r trydydd sector eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws cymunedau Cymru. Mae cymunedau wedi dangos pa mor dda y mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’i gilydd, ac fe hoffwn i gymeradwyo a dathlu’r ymdrechion a wnaed.

“Rydyn ni’n gofyn i chi barhau i wneud beth bynnag a allwch i gefnogi eich ardal leol – mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth. Cofiwch gadw’n ddiogel, aros yn lleol, a dilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru.”

Cyhoeddwyd yr arolwg ar-lein y mae’r adroddiad wedi’i seilio arno ar ran y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, a ddywedodd:

“Mae gweithwyr cymorth mewn awdurdodau lleol a’r trydydd sector wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gefnogi rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig hwn.

“Er ei bod yn amlwg bod rhai heriau’n parhau, mae’n galonogol gweld partneriaethau newydd a’r rhai oedd eisoes yn bodoli yn gweithio mor dda i roi cymorth yn lleol.

“Rwy’ am dalu teyrnged i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â darparu’r gwasanaethau pwysig hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar y partneriaethau hyn yn y misoedd i ddod.”

Wrth i awdurdodau lleol a Chynghorau Gwirfoddol Sirol gyflwyno mentrau â’r nod o leihau allgáu digidol, mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod angen mwy o gymorth i wella sgiliau digidol a mynediad ymhlith grwpiau agored i niwed a difreintiedig.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:

“Mae ein rhaglen ‘Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles’ yn gweithio gyda sefydliadau sydd yn y lle gorau i gyrraedd y rhai sydd angen help a chefnogaeth i ddefnyddio technolegau digidol. Mae cynhwysiant digidol hefyd yn ffocws allweddol i’n Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru.

“Mae’n rhaid i ni gefnogi pobl i oresgyn rhwystrau a sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i gael yr ysgogiad, yr hyder a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a dewis sut maen nhw’n cymryd rhan yn ein byd cynyddol ddigidol, a gwneud y gorau ohono.

“Mae gweithgarwch cymunedol a thrydydd sector yn parhau i fod yn allweddol ar gyfer adferiad Cymru o’r pandemig. Mae’r Grant Adfer Gwirfoddoli gwerth £4m a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn pwysleisio partneriaeth rhwng cyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector. Bydd y cyllid hwn yn cynnal gwirfoddoli a gweithredu cymunedol, gan helpu derbynwyr grantiau i gyflwyno systemau a threfniadau newydd, a datblygu gwasanaethau cymorth cymunedol hirdymor a fydd yn helpu i sicrhau adferiad yng Nghymru.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Ers dechrau’r pandemig, mae’r sector gwirfoddol wedi cynyddu ei wasanaethau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed. Mae 22,528 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli eleni ar Wirfoddoli Cymru ac mae CGGC, Cynghorau Gwirfoddol Sirol ac Awdurdodau Lleol wedi gweithio ar y cyd i sicrhau bod y gwirfoddolwyr hyn yn gallu cefnogi pobl mewn angen.

Mae’r gwaith hwn wedi helpu i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn gallu ynysu yn ddiogel sydd yn ei dro wedi helpu i dynnu pwysau oddi ar y GIG. Mae ymateb mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr wedi bod yn wirioneddol ryfeddol a hoffe.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig