Ar 1 Mawrth 2021, bydd y gyfraith sy’n ymwneud â smygu mewn rhai lleoliadau yng Nghymru yn newid

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yn ofynnol i diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd awyr agored, fod yn ddi-fwg.

Trwy ei gwneud hi’n ofynnol i fwy o fannau cyhoeddus yng Nghymru fod yn ddi-fwg, bydd modd helpu i leihau’r cysylltiad â mwg ail law niweidiol a helpu i leihau’r sbardun a allai beri i gyn-smygwyr ailddechrau smygu. Mae ein hysbytai yn fannau lle rydym yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol ynglŷn â’u hiechyd; felly, trwy ei gwneud hi’n ofynnol i safleoedd ysbytai fod yn ddi-fwg, byddwn yn hyrwyddo amgylcheddau gofal iachach ac yn helpu i gefnogi smygwyr sy’n defnyddio gwasanaethau ysbytai, yn ymweld ag ysbytai neu’n gweithio mewn ysbytai, i roi’r gorau iddi.

Gwyddom fod lleihau nifer y bobl ifanc sy’n dechrau smygu yn arwain at achub bywydau. Felly, bydd gwahardd smygu mewn ardaloedd lle bydd plant a phobl ifanc yn mynd iddynt yn rheolaidd – fel meysydd chwarae cyhoeddus a thiroedd ysgolion – yn ‘dadnormaleiddio’ yr arfer o smygu ac yn lleihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau smygu.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig