Arolwg yn datgelu y byddai mwy na dwy ran o dair o oedolion Cymru yn cael y brechlynnau ffliw a COVID-19 gyda’i gilydd eleni

Mae arolwg a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu y byddai ychydig dros ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru (70 y cant) yn hapus i dderbyn brechlyn ffliw a COVID-19 ar yr un pryd eleni, gydag 89 y cant hefyd yn hapus i dderbyn pigiad atgyfnerthu COVID-19, os caiff ei gynnig.

Dywedodd 73 y cant o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg y byddent yn cael y brechlyn ffliw a COVID-19 eleni ar adegau gwahanol, a dywedodd 70 y cant y byddent yn derbyn brechlyn ffliw a’r pigiad atgyfnerthu COVID-19 ar yr un pryd mewn gwahanol freichiau pe bai hynny’n cael ei gynnig.

Dywedodd Anne McGowan, Nyrs Ymgynghorol ym maes Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn ein hunain rhag clefyd difrifol, felly mae’n galonogol iawn gweld bod cynifer o bobl yn deall hyn ac yn barod i dderbyn brechlynnau COVID-19 a phigiadau atgyfnerthu, a brechlynnau’r ffliw eleni. Bydd hyn yn hanfodol ar gyfer amddiffyn pobl Cymru rhag salwch difrifol a gorfod mynd i’r ysbyty dros fisoedd y gaeaf ac ar ôl hynny.”

Datgelodd yr arolwg fod y canfyddiad o risg o COVID-19 yn dal yn isel ymhlith pobl ifanc (h.y. y rhai 18 – 34 oed) gyda 62 y cant yn anghytuno eu bod yn wynebu risg uchel o ddal COVID-19 o gymharu ag eraill a 28 y cant yn anghytuno y gallant fynd yn ddifrifol wael os byddant yn dal COVID-19

Parhaodd Anne: “Gyda nifer cynyddol o bobl ifanc yn profi’n bositif am Coronafeirws, mae’n destun pryder bod cynifer yn dal i gredu bod eu risg o ddal neu fynd yn ddifrifol wael gyda’r Coronafeirws yn isel, pan wyddom nad yw hyn yn wir. Byddem yn annog yn gryf y dylai unrhyw un, beth bynnag fo’r oedran, yn derbyn y brechlyn COVID-19 os bydd yn cael ei gynnig iddynt. Fel hyn gallwn gyfyngu ar ledaeniad y feirws, diogelu’r boblogaeth, a helpu i osgoi cyfyngiadau ar ein bywydau fel y gwelwyd yn flaenorol gyda’r pandemig.”

Dangosodd yr adroddiad hefyd fod mwy na dwy ran o dair (73 y cant) o’r farn bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am frechlyn COVID-19, ac yna Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 71 y cant.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn comisiynu arolwg gyda YouGov bob deufis, lle bydd o leiaf 1,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyfweld i ddeall teimladau’r cyhoedd am frechlynnau, yn benodol brechlynnau COVID-19 a’r ffliw.

Ar gyfer y pedwerydd adroddiad hwn, gofynnwyd y cwestiynau ar Omnibws Cymru YouGov rhwng 29 Gorffennaf a 2 Chwefror 2021.

Bydd adroddiad llawn YouGov yn cael ei gyhoeddi ar ficrowefan ymgyrch COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig