Buddsoddi miliwn i wneud beicio’n fwy hygyrch i bawb

Mae cynllun peilot beiciau trydan sydd wedi derbyn mwy na £1 milliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru eisoes yn helpu trigolion lleol i gyfnewid eu car am feic mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae’r cynllun benthyca beiciau trydan, sy’n cael ei redeg gan Sustrans, yn cynnig amrywiaeth o feiciau trydan â batris am ddim ar fenthyg hirdymor i drigolion lleol nad ydynt yn beicio’n rheolaidd neu sy’n teimlo bod cost beiciau trydan yn rhwystr i’w defnyddio.

Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno mewn pum lleoliad ledled Cymru i ddechrau, y Rhyl, Abertawe, Y Drenewydd (gyda chysylltiadau ag Aberystwyth) a’r Barri, a bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i gasglu data a fydd yn sail i argymhellion ynghylch y defnydd hirdymor o feiciau trydan a theithio llesol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig