“Bydd y pod yn ein gwneud yn rhan o’r gymuned eto” – dosbarthu’r ‘podiau ymweld’ cyntaf i gartrefi gofal Cymru

Mae’r “podiau ymweld” cyntaf sy’n darparu gofod ymweld ychwanegol mewn cartrefi gofal wedi’u dosbarthu yr wythnos hon.

Wylesfield, cartref gofal preswyl yn Llandrindod sydd dan reolaeth Shaw Healthcare, oedd un o’r cyntaf i dderbyn pod. Mae’r cartref deulawr pwrpasol yn darparu llety i 27 o bobl, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, a gofal seibiant.

Mae Rosina Mayer, 97 oed, wedi byw yn yr ardal ers dros 40 mlynedd ac mae ganddi ddau fab, chwech o wyrion a 10 o or-wyrion. Er bod rhai o’i theulu bellach yn byw yn Sbaen, mae un o’i meibion, Richard, yn dal i fyw yn Llandrindod.

“Bydd y pod yn ein gwneud yn rhan o’r gymuned eto, yn hytrach na theimlo ein bod wedi ein cau i ffwrdd,” meddai.

“Bydd yn wahanol i chwifio drwy’r ffenestr a bydd yn sicr yn gynhesach na chwrdd yn yr ardd. Rwy’n teimlo’n lwcus i fod yma yn Wylesfield, ond mae’n teimlo fel ein bod wedi bod yn byw bywyd gwahanol am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ac mae pawb yn edrych ymlaen at ddychwelyd i normal.”

O dan y cynllun peilot gwerth £3 miliwn, sy’n cynnwys caffael, gosod a llogi hyd at 100 o bodiau ymweld, bydd bron i 80 o unedau’n cael eu gosod ac yn barod i’w defnyddio cyn y Nadolig. Mae’r pod ymweld yn Wylesfield wedi’i gyflenwi a’i osod gan Portakabin.

Mae’r cyllid yn cynnwys £1 filiwn ar gyfer cynlluniau i gefnogi darparwyr sydd wedi gwneud eu trefniadau eu hunain ar sail debyg gan rentu pod am gyfnod o hyd at chwe mis.

Mae cartrefi gofal ar draws Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i drefnu ymweliadau o dan do, yn enwedig ar gyfer tymor yr ŵyl, a helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau lle nad yw wedi bod yn bosibl cynnal ymweliadau rheolaidd.

Bydd ehangu capasiti mewn cartrefi gofal yn helpu i gefnogi ymweliadau, gydag asesiad risg, yn ystod misoedd y gaeaf gan fod rhai darparwyr gofal wedi ei chael yn anodd cefnogi ymweliadau a sicrhau pellter cymdeithasol oherwydd y diffyg gofod ymweld.

Mae lefelau coronafeirws yng Nghymru’n uchel ar hyn o bryd ac mae diogelwch y bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal yn hollbwysig. Gwneir penderfyniadau ynglŷn ag ymweliadau gan ystyried y sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws, y lefel rhybudd a thrafodaethau gyda’r cartref.

Dechreuodd y cynllun peilot cyntaf i brofi cyflwyno brechlynnau i gartrefi gofal ddoe [dydd Mercher] yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint – ychydig dros wythnos ar ôl i’r brechlynnau cyntaf gael eu rhoi i staff iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal mewn canolfannau arbennig ar draws Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un o’r anoddaf erioed yng Nghymru, ac mae effaith coronafeirws wedi’i theimlo drwy ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Bydd dyfodiad y podiau ymweld hyn i’r cartref gofal yn helpu rhai o’n pobl mwyaf agored i niwed i dreulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau, a hynny mewn modd diogel.

“Ynghyd â dechrau cyflwyno’r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal, rydym yn awr yn gweld llygedyn o oleuni ar ddiwedd twnnel hir. Hoffwn ddiolch i’n staff gofal cymdeithasol am eu hymdrechion enfawr i gadw eu preswylwyr yn ddiogel.

Lowri Owen, manager of Wylesfield, said:

“Mae ein trigolion a’u teuluoedd wedi bod yn llawn cyffro ers clywed ein bod yn mynd i gael pod ymweld yn Wylesfield. Mae peidio â gallu cyfarfod eu hanwyliaid wyneb yn wyneb wedi bod yn un o’r pethau anoddaf i lawer o’n trigolion yn ystod y pandemig, felly mae gallu cynnig ffordd ddiogel o ganiatáu i bobl wneud hynny yn wych.

“Mae ein tîm wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw ein cymunedau’n ddiogel, a cheisio sicrhau hefyd bod teuluoedd yn gallu cadw mewn cysylltiad. Mae’r galwadau fideo wedi bod yn wych, ond mae gallu cael cyswllt wyneb yn wyneb rhwng preswylwyr a theuluoedd mor bwysig i lesiant ein trigolion, ac yn rhywbeth rwy’n gwybod y bydd eu teuluoedd yn ddiolchgar iawn amdano.”

Robert Snook, director and general manager of Portakabin said:

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r GIG a Llywodraethau ar draws y DU i ddarparu amrywiaeth o adeiladau ac rydym yn parhau i gynnig atebion pan a ble y mae eu hangen fwyaf.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adeiladau rydym wedi’u cynllunio ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhoi ychydig o normalrwydd i fywydau llawer drwy alluogi teuluoedd ac anwyliaid i ddod at ei gilydd yn ddiogel yn amgylchedd y cartref gofal. Mae ein tîm wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu 30 o gyfleusterau ar wahân ar draws Cymru ac rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniadau.

“Mae Portakabin yn gweithio’n rheolaidd gyda’n llywodraethau a’r GIG ac rydym yn falch o allu cefnogi system gofal iechyd ein cenedl yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal diweddaraf wedi’i gyhoeddi heddiw [dydd Iau]. Gan ganolbwyntio ar chwe maes allweddol – atal a rheoli heintiau; cyfarpar diogelu personol; cymorth cyffredinol a chlinigol ar gyfer cartrefi gofal; llesiant preswylwyr; llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol a chynaliadwyedd ariannol – mae’n elfen allweddol o gynllun diogelu’r gaeaf Llywodraeth Cymru.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig