Canllaw newydd yn helpu cyfathrebwyr i fynd i’r afael â chamwybodaeth am y Coronafeirws

Mae canllaw newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i lunio i helpu cyfathrebwyr a phobl sy’n gweithio gyda’r cyfryngau cymdeithasol i wybod sut i ymdrin â chamwybodaeth am y feirws.

Mae sefydliadau sy’n canolbwyntio ar atal trosglwyddo a lliniaru niwed y Coronafeirws yng Nghymru yn cydnabod potensial gwybodaeth anwir i ddylanwadu ar ymddygiad y cyhoedd a thanseilio effaith eu hymdrechion. Bu galwadau cynyddol am ganllawiau i helpu i fynd i’r afael yn fwy effeithiol â gwybodaeth anwir yn enwedig ar-lein.

Wedi’i ddatblygu gan Gell Ymateb Diogelu Iechyd Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ‘Canllaw ar gyfer mynd i’r afael â Gwybodaeth Anwir am y Coronafeirws neu’r Ymddygiad sy’n atal ei drosglwyddo’ yn nodi camau hawdd i’w defnyddio, effeithiol y gall timau cyfathrebu’r sector cyhoeddus eu cymryd i leihau effaith gwybodaeth anwir am y Coronafeirws.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig