Cost profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i economïau Ewrop

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health gan ymchwilwyr iechyd cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn dangos costau amcangyfrifedig profiadau niweidiol yn ystod  plentyndod i’r oedolion yr effeithir arnynt ac i gymdeithas ar draws 28 o wledydd Ewrop.

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynnwys dioddef camdriniaeth, bod yn dyst i drais yn y cartref neu’r gymuned, a byw gydag anawsterau teuluol fel rhieni’n cam-drin sylweddau.  Mae gorfod dioddef straen o’r fath yn gysylltiedig ag iechyd a lles gwaeth trwy gydol oes, gan ddylanwadu ar ddatblygiad niwrolegol, biolegol a chymdeithasol plant. Mae’n cynyddu eu tueddiad i ddioddef anawsterau cymdeithasol fel cyrhaeddiad addysgol isel, ymddygiad niweidiol fel ysmygu, a salwch meddwl a chorfforol. Er bod llawer o bobl sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn mynd ymlaen i fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol, mae’r rhai sydd wedi dioddef mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fwy tebygol o ddioddef afiechyd, cyrhaeddiad addysgol is ac amddifadedd cymdeithasol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig