Cyflogaeth am dâl ac addysg yn gysylltiedig â llesiant gofalwyr di-dâl
Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr (25 Tachwedd 2021), mae ymchwil newydd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, wedi canfod bod gan ofalwyr di-dâl iechyd llawer gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru; ond mae bod mewn cyflogaeth â thâl, sicr a/neu addysg wrth ofalu am eraill yn gysylltiedig â llesiant uwch ymhlith gofalwyr di-dâl.
Ar anterth pandemig COVID-19, amcangyfrifwyd bod dros 700,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sef cynnydd o tua 400,000 yn 2019. Fodd bynnag, oherwydd diffyg casglu data systematig ar ofalwyr di-dâl, mae’n anodd gwybod nifer gwirioneddol y gofalwyr di-dâl yng Nghymru, a chael dealltwriaeth lawn o’u hanghenion iechyd.
Aeth yr ymchwil a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe i’r afael â’r her hon drwy ddwyn ynghyd ddata gofal sylfaenol dienw ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Llwyddodd y tîm i nodi dros 62,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru dros y cyfnod rhwng 2011 i 2020, a disgrifio iechyd y grŵp hwn.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.