“Cymerwch y camau sydd eu hangen i gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn dysgu”

Cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i deuluoedd a dysgwyr barhau i ddilyn y canllawiau ar ynysu, profi a brechu, er mwyn lleihau’r risg o ledu COVID-19 yn ein lleoliadau addysg.

  • Cael y brechlyn os yw’n cael ei gynnig i chi.
  • Golchi dwylo’n rheolaidd.
  • Dylai unrhyw staff neu ddysgwr sydd â symptomau COVID-19 – waeth pa mor ysgafn – aros gartref a threfnu prawf PCR yn eu canolfan brofi agosaf.
  • Dylai staff mewn ysgolion cynradd – a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau – sydd heb symptomau gymryd dau brawf llif unffordd, tri diwrnod ar wahân, yn ystod yr wythnos cyn eu diwrnod cyntaf yn ôl. Os yw’r prawf yn gadarnhaol dylent hunanynysu, a threfnu prawf PCR.
  • Ar ddechrau’r tymor newydd, dylai staff mewn ysgolion cynradd a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau nad ydynt yn dangos symptomau barhau i gymryd profion llif unffordd cyflym rheolaidd ddwywaith yr wythnos, ac adrodd ar y canlyniadau ar-lein.
  • Dylai Dysgwyr Blynyddoedd 7 ac uwch barhau i wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i’r ysgol a choleg.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig