Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd pobl o bob oed yn cael eu cefnogi i fyw ac i heneiddio yn dda ac mae’n herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio, a’r ffordd rydym yn teimlo amdano.

Bydd Cymru o Blaid Pobl Hŷn yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i fynd i’r afael ag ystod eang o ffactorau sy’n dylanwadu ar sut yr ydym yn heneiddio – o’n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i’r ffordd yr ydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Pedwar prif nod y strategaeth yw:

  • Gwella llesiant
  • Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau
  • Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
  • Trechu tlodi sy’n gysylltiedig ag oedran

Cefnogi cynlluniau ar gyfer heneiddio’n iach, mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol a thlodi tanwydd, cydnabod pwysigrwydd gofal diwedd oes o ansawdd uchel, a gwella’r cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl yw rhai o’r camau gweithredu a nodwyd yn y strategaeth i gyflawni’r nodau hyn.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig