Cynllun Mentora Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus y DU

Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus y DU yn cynnal peilot o gynllun mentora ar gyfer eu sefydliadau aelodau ac arsyllwyr. Mae’r peilot yn agored i bob aelod o staff, ar bob lefel, sydd yn gweithio yn eu sefydliadau aelodau ac arsyllwyr.  Cynhelir y peilot am chwe mis (Ebrill – Hydref 2021).

Diben y cynllun yw hwyluso datblygiad gyrfa bersonol, cysylltu cymuned iechyd y cyhoedd ar draws y DU a datblygu diwylliant ehangach o rannu gwybodaeth ar draws sefydliadau iechyd y cyhoedd.

Mae’n yn edrych yn benodol am fentoriaid i gymryd rhan am fod diddordeb mawr wedi bod yn barod gan bobl sy’n dymuno mentora pobl.  Nid oes angen i’r mentoriaid ymrwymo llawer o amser – mae sesiwn hyfforddiant 90 munud gyda hyfforddwr proffesiynol, ac yna awgrymir cyfarfodydd misol gyda’r bobl y maent yn eu mentora ond y parau a ddewisir fydd yn penderfynu ar hyn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://ukpublichealthnetwork.org.uk/mentoring/

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig