Cynnydd o chwarter miliwn o bunnoedd i’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr
Mae swm ychwanegol o £250,000 wedi’i gyhoeddi i helpu gofalwyr di-dâl Cymru i ymdopi â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws.
Mae’r Gronfa’n agored i ofalwyr ledled Cymru, a bydd grantiau o hyd at £300 ar gael ar gyfer amrywiaeth o hanfodion, gan gynnwys bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwynion, neu ddyfeisiau electronig fel gliniadur er mwyn cael mynediad at gymorth a gwasanaethau.
Mae tua 55,300 o bobl yng Nghymru yn cael lwfans gofalwr ac mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod bron i 40% o ofalwyr yn poeni am eu sefyllfa ariannol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.