Dechrau newydd i dymor newydd gyda buddsoddiad i helpu i wella ansawdd yr aer mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion
Bydd cyllid ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.
Bydd £3.31m yn cael ei ddarparu ar gyfer peiriannau diheintio oson newydd, i leihau amseroedd glanhau, gwella’r broses ddiheintio a lleihau costau. Disgwylir i’r cyllid gyflenwi mwy na 1,800 o beiriannau, o leiaf un ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.
Bydd £2.58 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer dros 30,000 o beiriannau monitro ‘goleuadau traffig’ carbon deuocsid, ar gyfer mannau addysgu a dysgu fel ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminar neu ddarlithfeydd.
Mae peiriannau monitro carbon deuocsid yn cynnwys synwyryddion sy’n rhoi arwydd gweledol pan fo ansawdd aer mewnol yn dirywio. Bydd y peiriannau’n rhybuddio athrawon a darlithwyr pan fydd lefelau carbon deuocsid yn codi, gan roi gwybod iddynt bod angen gwella ansawdd yr aer, a bydd hynny’n helpu i reoli awyru yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn helpu i gynnal tymheredd cyfforddus i ddysgwyr a staff yn ystod cyfnodau oerach, gyda llai o wres yn cael ei golli, ac yn arbed costau ynni.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.