Dinasyddiaeth Fyd-eang: Lansio modiwl e-ddysgu newydd y GIG
Mae’r Ganolfan Cydlynu Iechyd Rhyngwladol (IHCC), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi lansiad yr adnodd e-ddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang cyntaf ar gyfer y GIG.
Mae’r llwyfan dysgu ar-lein am ddim hwn wedi’i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol a phawb yn y GIG yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am Ddinasyddiaeth Fyd-eang a’r hyn y mae’n ei olygu i’n bywydau bob dydd, deall safbwyntiau rhyngwladol a phrofiadau gweithwyr iechyd proffesiynol a sut y gallwn gyfrannu, helpu gydag atebion a dod yn fwy ymwybodol yn fyd-eang yn y gwaith a’r tu allan iddo.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.