Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021: Gofal iechyd meddwl i bawb: gadewch i ni ei wireddu

Amcan cyffredinol Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a newid ymdrechion i gefnogi iechyd meddwl.

Mae’r Diwrnod yn gyfle i’r holl randdeiliaid sydd yn gweithio ar faterion iechyd meddwl siarad am eu gwaith a beth arall sydd angen ei wneud i wireddu gofal iechyd meddwl i bobl yn fyd-eang.

Yn ystod ymgyrch Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, bydd Sefydliad Iechyd y Byd yn arddangos yr ymdrechion a wnaed o ganlyniad i bandemig COVID-19 ac yn annog pawb i amlygu straeon cadarnhaol fel rhan o’u gweithgareddau eu hunain, ac fel ysbrydoliaeth i eraill.

Mae deunyddiau newydd, mewn fformatiau hawdd i’w darllen, ar gael.

#DiwrnodIechydMeddwlyByd

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig