Haf o Hwyl i helpu plant a phobl ifanc i adfer o’r pandemig

Mae’r cynllun ‘Haf o Hwyl’ i helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau’n ymwneud â chwaraeon, diwylliant a chwarae wedi’i gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Wrth lansio’r prosiect Haf o Hwyl gwerth £5m ym Mharc Romilly ym Mro Morgannwg, dywedodd Julie Morgan ei bod yn bwysig inni edrych ar yr ystod lawn o anghenion sydd ein plant a’n pobl ifanc, gan sicrhau bod llesiant cymdeithasol ac emosiynol wrth wraidd ein hadferiad o’r pandemig.

Bydd y rhaglen Haf o Hwyl yn cael ei rhedeg gan awdurdodau lleol rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi a bydd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau am ddim yn ymwneud â hamdden, chwaraeon a diwylliant i blant a phobl ifanc 0-25 oed, i helpu i gefnogi eu llesiant cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol. Bydd y gweithgareddau a ddarperir drwy’r cynllun Haf o Hwyl am ddim, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a byddant yn cael eu cynnig ar ben unrhyw ddarpariaeth gofal plant rheoleiddiedig. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi lansio hwb gwybodaeth i hysbysebu’r gweithgareddau am ddim sydd ar gael fel rhan o’r cynllun Haf o Hwyl.

Dyma dri phrif amcan Haf o Hwyl:

  • cefnogi cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael hwyl a gallu eu mynegi eu hunain drwy chwarae
  • mentrau rhyngweithiol a chreadigol seiliedig ar chwarae yn y gymuned i blant a phobl ifanc o bob oedran
  • darparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion

Fel rhan o’r buddsoddiad, bydd £450,000 yn cael ei rannu rhwng Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu cynllun peilot a fydd yn ychwanegu at y diwrnod ysgol drwy agor cyfleusterau ysgol i’w defnyddio gan y gymuned, i greu cynnig llesiant newydd i blant a phobl ifanc. Bydd y cynllun peilot yn ategu’r rhaglen Haf o Hwyl.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae pob un ohonom wedi teimlo effeithiau’r flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ein plant a’n pobl ifanc sydd wedi colli cynifer o gyfleoedd i gymdeithasu, i fod yn actif ac i chwarae. Dyna pam, fel rhan o’n cynllun Adnewyddu a Diwygio ar gyfer dysgu, rwy’n cyhoeddi cyllid i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau llesiant am ddim. Bydd y gweithgareddau a ariennir drwy’r cynllun Haf o Hwyl yn darparu cyfleoedd i gefnogi iechyd a llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol ein pobl ifanc. Drwy gefnogi’r anghenion hyn gellir hefyd eu helpu i fagu hyder, i ailymgysylltu â dysgu ac addysg, ac i geisio gwireddu eu llawn botensial. Edrychaf ymlaen at weld yr amrywiaeth eang o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal yr haf hwn.

Dywedodd Sally Holland, y Comisiynydd Plant:

Mae plant a phobl ifanc wedi colli cynifer o gyfleoedd i chwarae a chymdeithasu yn ystod y pandemig. Rwy’n hynod falch bod y Llywodraeth wedi ymateb mor gadarnhaol i’r galwadau am Haf o Hwyl a wnaed gennyf gyda’r Urdd a Chwaraeon Cymru. Mae’r cyllid sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn ystyried y materion a godwyd yn ystod digwyddiad bwrdd crwn mawr a gynhaliwyd gennym ar y pwnc yn gynharach eleni, gan gynnwys yr angen am ragor o gymorth ar gyfer costau trafnidiaeth, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dull wedi’i dargedu ar gyfer plant anabl, y rhai ar incwm isel a phlant o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Dewch inni sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn awr yn cael haf o hwyl ar ôl blwyddyn mor ansefydlog.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:

Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith fawr arnom i gyd, gyda phlant ymysg y rhai yr effeithiwyd fwyaf arnynt. Maent wedi methu mynd i’r ysgol am gyfnodau hir, a all effeithio’n sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol a lefelau gweithgarwch, yn ogystal ag ar ddysgu.

Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wedi bod yn broblemau gwirioneddol dros y 15 mis diwethaf ac mae’r cynllun Haf o Hwyl wedi’i lansio i geisio mynd i’r afael â hyn. Bydd yn caniatáu i blant ailgysylltu â’i gilydd ac â gweddill y byd drwy amrywiaeth o weithgareddau cyffrous. Gan ddefnyddio’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gobeithio darparu amrywiaeth o gyfleoedd ledled Bro Morgannwg gan ddefnyddio ystod eang o adnoddau a sefydliadau. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld plant a phobl ifanc yn mwynhau eu hunain eto.

Un elfen o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu plant a phobl ifanc i adfer o’r pandemig yw’r cynllun Haf o Hwyl. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal fel rhan o’r cynllun Adnewyddu a Diwygio gwerth £150 miliwn, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn gynharach yr wythnos hon, i gefnogi dysgwyr, athrawon a staff.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig