Mae angen i anghenion iechyd a llesiant y gymuned bysgota fod yn ganolog i’r ymateb i Brexit – adroddiad newydd

Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu llesiant cymunedau pysgota Cymru wrth iddynt wynebu ansicrwydd ac effaith economaidd niweidiol bosibl Brexit.

Mae’r cyhoeddiad, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, yn nodi effeithiau iechyd a llesiant yr heriau a’r ansicrwydd niferus sy’n wynebu cymunedau pysgota yng Nghymru. Mae’r materion hirsefydlog hyn yn debygol o gael eu gwaethygu ymhellach gan Brexit, gan ddod â ffynhonnell ychwanegol o straen i dros 800 o weithwyr a’u teuluoedd.

Mae’r adroddiad yn galw am fwy o weithredu i atal ansicrwydd rhag digwydd yn y lle cyntaf, i ddiogelu rhag yr effaith negyddol ar lesiant meddyliol, a hyrwyddo iechyd a llesiant yng nghymunedau pysgota Cymru. Mae iechyd da, mae’r adroddiad yn dadlau, yn hanfodol i’r rhai sy’n gweithio yn y sector i gynnal bywoliaeth hyfyw i’w teuluoedd.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig