Mae ymchwil newydd yn atgyfnerthu pwysigrwydd negeseuon clir am fanteision brechlynnau i annog mwy o staff y GIG i fanteisio arnynt

Mae astudiaeth newydd, wedi’i chyllido gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi dangos y gallai negeseuon clir a llawn gwybodaeth am fanteision brechu annog mwy o staff y GIG i fanteisio arnynt.

Wrth i’r rhaglen brechu ffliw flynyddol a’r pigiadau atgyfnerthu Coronafeirws gael eu cyflwyno, mae astudiaeth newydd, wedi’i chyllido gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi dangos y gallai negeseuon clir a llawn gwybodaeth am fanteision brechu annog mwy o staff y GIG i fanteisio arnynt.

Cynhaliodd gwyddonwyr ymddygiad o Brifysgol Sheffield Hallam yr astudiaeth ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi mwy o ddefnydd o’r brechlyn ffliw blynyddol.

Cynhaliodd ymchwilwyr o Ganolfan Gwyddor Ymddygiad a Seicoleg Gymhwysol y Brifysgol (CeBSAP) gyfweliadau â 36 o weithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) i archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar nifer y rhai sy’n manteisio ar y brechlynnau ffliw a Covid-19.

Canfuwyd nifer o ffactorau sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar nifer y rhai sy’n cael eu brechu gan gynnwys cael y brechlyn i amddiffyn eu hunain, eraill, a’r GIG yn ogystal â chael cymorth gan y gweithle i gymryd amser o’r gwaith i gael y brechlyn.

Datgelodd yr astudiaeth hefyd fod pandemig Covid-19 wedi cynyddu eu dealltwriaeth o’r angen am y brechlyn ffliw.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig