Manteision brechlyn Coronafeirws yn llawer mwy na’r risgiau

Mae ymgyrch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog menywod beichiog i gael y brechlyn Coronafeirws wedi’i lansio.

Mae’n ymddangos nad yw menywod beichiog yn fwy na’n llai tebygol o ddal y feirws, ond mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod menywod beichiog sydd â’r coronafeirws yn wynebu risg uwch o salwch difrifol a chael eu derbyn i’r ysbyty o gymharu â menywod nad ydynt yn feichiog sydd â’r Coronafeirws.

Mae cymhlethdodau fel cyneclampsia, geni cyn amser a marw-enedigaeth ddwywaith yn fwy tebygol mewn menywod beichiog â’r Coronafeirws o gymharu â menywod beichiog nad oes ganddynt Coronafeirws. Mae’r risgiau’n cynyddu yn y tri mis olaf ac i fenywod â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig