Plis rhowch le i mi – Helpu pobl â dementia a chadw pellter cymdeithasol

Mae Plis rhowch le i mi yn fenter newydd gan wneuthurwyr cynllun laniard Blodyn Haul Anableddau Cudd.  Mae wedi ei dylunio i gynorthwyo pobl ag anableddau anweladwy, fel dementia, i gadw pellter cymdeithasol yn ystod pandemig coronafeirws.

Mae Plis rhowch le i mi wedi ei ddylunio i rybuddio aelodau o’r cyhoedd bod angen iddynt gadw pellter oddi wrth y person sydd yn gwisgo’r symbol ‘Plis rhowch le i mi’, gan fod y person yn cael anhawster yn cadw pellter cymdeithasol.  Gall gwisgo’r symbol yn gyhoeddus hefyd dawelu sefyllfaoedd anodd, heb fod angen esboniadau cymhleth.

Yn ystod coronavirus, mae pobl yn gallu cynhyrfu os nad oes cadw pellter cymdeithasol yn digwydd.  Mae hyn wedi arwain at bobl ag anableddau cudd, yn cynnwys dementia, yn cael eu cam-drin yn llafar neu yn ymosodol am beidio â chadw pellter cymdeithasol diogel.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig