Pynciau

Dewch o hyd i bwnc

Chwilio am bwnc penodol?

Dewch o hyd i bwnc

Atal a Gwella ym maes Iechyd a Gofal Iechyd

Nid yw gofal iechyd yn ymwneud â chanfod a thrin clefydau yn unig ond hefyd cefnogi pobl i fyw bywydau iachach a helpu pobl i reoli cyflyrau hirdymor a chynnal ansawdd bywyd da.

Gweld y pynciau

Pobl

Mae rhai poblogaethau â risg uwch o salwch oherwydd ffactorau genetig, ymddygiadol, economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol. Rôl allweddol iechyd y cyhoedd yw deall anghydraddoldebau iechyd ar draws poblogaethau gwahanol a gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleoedd bywyd pawb.

Gweld y pynciau

Ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd

Mae’r rhain yn gamau y mae unigolion yn eu cymryd sydd yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles ac yn cynnwys ymddygiad niweidiol fel smygu, ymddygiad sydd yn diogelu iechyd, gan gynnwys gweithgarwch corfforol a bwyta deiet iach ac ymddygiad ceisio iechyd fel mynd at y meddyg neu’r deintydd.

Gweld y pynciau

Lles meddwl

Mae lles meddwl yn ymwneud â’n gallu i deimlo’n hyderus ynom ni ein hunain, datblygu a chynnal perthnasoedd cefnogol, cael teimlad o ddiben, byw a gweithio’n gynhyrchiol, ymdopi â straen dyddiol ac addasu’n gadarnhaol i newid.

Gweld y pynciau

Penderfynyddion ehangach iechyd

Mae amodau byw yn cynnwys tai, mynediad at addysg a gwaith, yr amgylchedd adeiledig ac ansawdd aer, yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau iechyd ac anghydraddoldebau iechyd trwy gydol ein bywydau.

Gweld y pynciau

Iechyd ym mhob polisi

Mae iechyd ym mhob polisi yn ymagwedd gydweithredol sydd yn canolbwyntio ar y cysylltiadau a’r berthynas rhwng polisïau iechyd a pholisïau o sectorau eraill fel addysg, tai, cyflogaeth, yr amgylchedd a chynllunio.

Gweld y pynciau

Ymagweddau a dulliau mewn ymarfer iechyd y cyhoedd

Mae ymarfer iechyd y cyhoedd yn gelfyddyd ac yn wyddor ac mae’n defnyddio nifer o ymagweddau o feddygaeth, y gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol a’r gwyddorau rheoli.

Gweld y pynciau

Chwilio am bwnc penodol?

Cyfrannu at ein pynciau

Oes gennych chi adnodd rydych chi am ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein pynciau.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.