UKPHR yn lansio Pecyn Cymorth Cyflogwyr i hyrwyddo cofrestru Ymarferwyr
Mae UKPHR wedi lansio Pecyn Cymorth Cyflogwyr wedi ei anelu at gyflogwyr Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd i gynorthwyo staff cymorth i gofrestru ar Gofrestr Iechyd y Cyhoedd y DU (UKPHR).
UKPHR yw rheoleiddiwr gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol y DU ac mae’n disgrifio arbenigwyr iechyd y cyhoedd ac ymarferwyr iechyd fel “Arwyr Iechyd y Cyhoedd” oherwydd eu rhan hanfodol yn ymateb y DU i COVID-19 a’u cyfraniad at wneud y DU yn lle mwy diogel ac iach i fyw.
Nod y Pecyn Cymorth yw annog cyflogwyr i alluogi mwy o weithwyr iechyd y cyhoedd i gofrestru fel arbenigwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol. Mae cofrestru yn rhoi achrediad i staff, a sicrwydd i gyflogwyr a’r cyhoedd bod y rheiny sydd yn gweithio ym maes iechyd y cyhoedd yn cael eu hyfforddi a’u datblygu i wneud y gwaith gorau posibl i wella a diogelu iechyd ein poblogaeth
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.